Uwch-gyfieithwyr (testun) – Cymraeg yn hanfodol and Rheolwr Terminoleg – Cymraeg yn hanfodol : Welsh Government
4139 – Uwch-gyfieithwyr (testun) – Cymraeg yn hanfodol
Welsh Government
Apply before 4:00 pm on Monday 21st September 2026
Details
Reference number
Salary
Job grade
Contract type
Business area
Type of role
Working pattern
Number of jobs available
Contents
Location
About the job
Job summary
Job description
- Bydd pob uwch-gyfieithydd yn meddu ar y sgiliau iaith a’r crebwyll gwleidyddol a sefydliadol i gyfieithu, heb oruchwyliaeth, rhwng y Saesneg a’r Gymraeg.
- Ar ôl meithrin rhywfaint o brofiad yn y swydd, disgwylir i uwch-gyfieithwyr adolygu cyfieithiadau testun, a hyfforddi cyfieithwyr llai profiadol. Gall hyn hefyd olygu cyfrifoldebau rheoli llinell.
- Bydd rhai uwch-gyfieithwyr yn canolbwyntio ar gyfieithu testunau cyffredinol, tra bydd eraill yn arbenigo mewn cyfieithu deddfwriaeth.
- Gan ddibynnu ar anghenion busnes y Gwasanaeth Cyfieithu, a chryfderau’r unigolyn, disgwylir i uwch-gyfieithwyr gyfrannu at amryw agweddau ar waith y proffesiwn, ee datblygu a chyflwyno technoleg arbenigol, caffael gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, prosiectau safoni terminoleg.
Person specification
Cyfieithu ysgrifenedig
- Cyfieithu heb oruchwyliaeth o’r Saesneg i’r Gymraeg ac, o bryd i’w gilydd, o’r Gymraeg i’r Saesneg. Bydd natur y testunau yn amrywio o ddogfennau polisi i sgriptiau ac areithiau, a gall y gwaith gynnwys amrediad eang o gyweiriau o’r creadigol i’r deddfwriaethol.
Sicrhau ansawdd
- Sicrhau bod eich gwaith cyfieithu yn gywir, yn briodol ac yn cydymffurfio bob amser â chywair, arddull a therminoleg safonol y Gwasanaeth Cyfieithu ar gyfer y math o destun dan sylw.
- Sicrhau ansawdd gwaith cyfieithwyr mewnol eraill yn ôl y galw, a chyfrannu at broses monitro ansawdd gwaith y cyflenwyr allanol a ddefnyddir dan gontract gan y Gwasanaeth Cyfieithu.
Gwasanaeth i gwsmeriaid
- Meithrin perthynas â chwsmeriaid mewn meysydd polisi gweinidogol neu dimau cyfreithiol Bydd hyn yn golygu deall gofynion cyfieithu Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd, deall y gweithdrefnau deddfu a’r meysydd pwnc, a mynd i’r afael â materion sy’n codi wrth drefnu gwaith cyfieithu.
- Bod yn atebol am eich gwaith cyfieithu o’i ddechrau i’w ddiwedd, a chymryd y cyfrifoldeb am gyfathrebu’n briodol ac yn brydlon â chwsmeriaid a chydweithwyr eraill i sicrhau gwasanaeth effeithiol ac effeithlon.
- Bod yn ymwybodol o gynulleidfaoedd targed ein cyfieithiadau, ac ystyried eu hanghenion hwythau wrth ddarparu cyfieithiadau ar ran Llywodraeth Cymru.
Arddull a therminoleg
- Ymgyfarwyddo â’r prif egwyddorion ar gyfer safoni termau, a dilyn trefniadau gosodedig y Gwasanaeth ar gyfer paratoi, safoni a rhannu termau drwy gyfrwng TermCymru.
- Cydweithio â chyfieithwyr ac eraill i sicrhau cysondeb arddull y Gwasanaeth Cyfieithu a chynorthwyo i ddatblygu’r canllawiau arddull a gyhoeddir ar BydTermCymru.
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
- Defnyddio systemau craidd y Llywodraeth, ynghyd â systemau a meddalwedd arbenigol y Gwasanaeth Cyfieithu, i’w llawn botensial o ddydd i ddydd. Mae’r systemau arbenigol yn cynnwys cof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, system llif gwaith, system rheoli dogfennau, meddalwedd drafftio deddfwriaeth a meddalwedd fynegeio.
- Helpu i ddatblygu’r defnydd o offer TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu) arbenigol a chadw ar drywydd y datblygiadau technolegol diweddaraf sy’n hyrwyddo prosesau cyfieithu.
Adolygu, ôl-olygu a phrawfddarllen testunau
- Adolygu testunau a gynhyrchir gan gyd-gyfieithwyr a/neu gyfieithwyr llai profiadol, ôl-olygu testunau sydd wedi’u cynhyrchu gan gyfuniad o gof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, a phrawfddarllen cyfieithiadau er mwyn cyhoeddi testunau sy’n cyfateb yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rheoli a datblygu cyfieithwyr llai profiadol
- Ar ôl cyfnod o ymgynefino â’r swydd, ysgwyddo’r cyfrifoldeb o reoli, arwain a datblygu cyfieithwyr llai profiadol.
Gwirio a chynghori
- Darparu gwasanaeth gwirio testun ar gyfer swyddogion sy’n drafftio testunau yn Gymraeg.
- Rhoi cyngor a chanllawiau clir a safonol i swyddogion ar faterion gramadeg, arddull a therminoleg.
Cyffredinol
- Cynorthwyo’r Arweinwyr Timau i ddyrannu gwaith, gan ddirprwyo ar eu rhan yn ôl y gofyn.
- Gan ddibynnu ar gryfderau’r unigolyn ac anghenion busnes y Gwasanaeth, arwain a/neu gyfrannu at swyddogaethau a phrosiectau y mae’r Gwasanaeth yn ymwneud â nhw, gan gynnwys cyflwyno technolegau cyfieithu a CAP (Cyfieithu ar y Pryd) newydd, prosesau caffael gwasanaethau cyfieithu, rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr ac ymwelwyr.
- Gwneud unrhyw dasg resymol arall ar gais arweinydd tîm neu reolwyr eraill y Gwasanaeth Cyfieithu
Qualifications
Languages
Gofynion y Gymraeg
1 – Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rôl hon wedi’u nodi isod. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol. I gael rhagor o wybodaeth am lefelau yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan.
Deall drwy ddarllen
5 – Gallu deall yn llwyr yr holl ddeunyddiau sy’n ymwneud â gwaith
Siarad a chael eu deall
5 – Rhugl
Deall drwy wrando
5 – Gallu deall pob sgwrs sy’n ymwneud â gwaith
Ysgrifennu a chael eu deall
5 – Gallu ysgrifennu deunydd ysgrifenedig ar gyfer yr holl faterion sy’n ymwneud â gwaithMae sgiliau’r Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’n rhaid cwblhau pob cais a’i gyflwyno yn Gymraeg, a bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.
Profiad o weithio yn broffesiynol ym maes y Gymraeg fel cyfieithydd neu olygydd neu mewn swydd sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg o’r radd flaenaf.
Behaviours
We’ll assess you against these behaviours during the selection process:
- Managing a Quality Service
- Leadership
- Making Effective Decisions
Technical skills
We’ll assess you against these technical skills during the selection process:
- Sgiliau iaith cadarn yn y Gymraeg a’r Saesneg, a’r gallu i gyfieithu testunau Llywodraeth Cymru mewn amryw arddulliau.
- Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn ynghyd â’r gallu a’r parodrwydd i’w datblygu ymhellach
Benefits
- Learning and development tailored to your role
- An environment with flexible working options
- A culture encouraging inclusion and diversity
- A Civil Service pension with an employer contribution of 28.97%
Things you need to know
Artificial intelligence
Selection process details
Mae Llywodraeth Cymru, fel pob un o Adrannau eraill y Llywodraeth, yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant wrth recriwtio. Ar gyfer pob rôl, byddwn yn ystyried yr hyn y bydd angen i chi ei ddangos er mwyn llwyddo. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i’r person iawn ar gyfer y swydd. Mae’n gwella perfformiad ac yn gwella amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyma’r broses a’r camau dethol:
| Nifer y Camau: | Proses 3 cham |
|---|---|
| Cam 1 | Cais |
| Cam 2 | Prawf ar-lein |
| Cam 3 | Cyfweliad |
Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.
Security
Nationality requirements
Working for the Civil Service
The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.
We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission’s recruitment principles (opens in a new window).
Diversity and Inclusion
Apply and further information
Contact point for applicants
Job contact :
- Name :Swyddi.Cyfieithu@llyw.cymru
- Email :Swyddi.Cyfieithu@llyw.cymru
Recruitment team
Further information
Egwyddorion a chwynion recriwtio Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Edrychwch ar egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan y Comisiwn. Os ydych chi’n teimlo nad yw eich cais wedi cael ei drin yn unol â’r egwyddorion hyn a’ch bod yn dymuno gwneud cwyn, anfonwch e-bost at cwynion@llyw.cymru.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at gyfeirnod y swydd wag. Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb a gewch gan Lywodraeth Cymru, gallwch gysylltu â Chomisiwn y Gwasanaeth Sifil: info@csc.gov.uk.
4137 – Rheolwr Terminoleg – Cymraeg yn hanfodol
Welsh Government
Apply before 4:00 pm on Monday 21st September 2026
Details
Reference number
Salary
Job grade
Contract type
Business area
Type of role
Working pattern
Number of jobs available
Contents
Location
About the job
Job summary
| Mae’r swydd hon yn gyfrifol am gyfrannu at waith yr Uned Ddatblygu i ddarparu cefnogaeth, arweiniad ac adnoddau i Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. Dyma’r uned sy’n gyfrifol am ddarparu arweiniad a chefnogaeth i’r Gwasanaeth Cyfieithu cyfan – a’r Llywodraeth yn ehangach – ar faterion yn ymwneud ag arddull cyfieithu, terminoleg, sicrhau ansawdd, datblygu sgiliau cyfieithu proffesiynol, a hyrwyddo’r Gwasanaeth fel canolfan ragoriaeth. |
Job description
Prif amcanion y swydd yw:
- Cynnal ymchwil terminolegol a rhoi cyngor arbenigol ar dermau yn y Gymraeg, gan sicrhau y gwneir penderfyniadau gwydn o ansawdd uchel, yn unol â safonau ac egwyddorion cydnabyddedig y maes
- Cynnal a chynorthwyo i ddatblygu adnoddau terminoleg blaenllaw’r Gwasanaeth Cyfieithu, gan gynnwys cronfa gyhoeddus TermCymru ac adnoddau terminoleg eraill BydTermCymru, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod â hygrededd uchel, ac yn bodloni gofynion y defnyddwyr
- Hyrwyddo arferion safonol a datblygiad o ran terminoleg ac enwau lleoedd yn y Gwasanaeth Cyfieithu ac o fewn Llywodraeth Cymru’n ehangach.
Rhoddir hyfforddiant llawn ym meysydd gwaith terminoleg ac enwau lleoedd i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Person specification
Terminoleg
Enwau lleoedd ac arwyddion ffyrdd
Systemau ac adnoddau
Cyffredinol
|
Qualifications
Languages
Gofynion y Gymraeg
1 – Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rôl hon wedi’u nodi isod. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol. I gael rhagor o wybodaeth am lefelau yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan.
Deall drwy ddarllen
5 – Gallu deall yn llwyr yr holl ddeunyddiau sy’n ymwneud â gwaith
Siarad a chael eu deall
5 – Rhugl
Deall drwy wrando
5 – Gallu deall pob sgwrs sy’n ymwneud â gwaith
Ysgrifennu a chael eu deall
5 – Gallu ysgrifennu deunydd ysgrifenedig ar gyfer yr holl faterion sy’n ymwneud â gwaith
Behaviours
We’ll assess you against these behaviours during the selection process:
- Seeing the Big Picture
- Developing Self and Others
- Making Effective Decisions
Technical skills
We’ll assess you against these technical skills during the selection process:
- Sgiliau iaith cadarn yn y Gymraeg a’r Saesneg, a’r gallu i ddadansoddi materion ieithyddol a therminolegol yn y ddwy iaith.
- Y gallu i ddod i gasgliadau priodol gan ystyried tystiolaeth berthnasol a darparu cyngor addas i swyddogion ar bob lefel.
- Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn ynghyd â’r gallu a’r parodrwydd i’w datblygu ymhellach.